Mae’n bleser gennyf gadarnhau y bydd Gwylio’r Glannau Gogledd Cymru yn agor drysau ei Ganolfan Gwylio gweithredol cyntaf yn ystod
Pasg 2010. Bydd yr adeilad yn cael ei agor gan aelodau o deulu Mr Maldwyn Jones, y pysgotwr a gollodd ei fywyd oddi ar arfordir Nefyn
ddwy flynedd yn ôl. Roedd marwolaeth Mr Jones yn nyfroedd Gogledd Cymru yn pwysleisio’r angen i gael canolfannau gwylio o amgylch
ein harfordir. Hefyd, yr angen am wirfoddolwyr cymwys ac hyfforddedig i gyflawni’r gwasanaeth gwerthfawr yma, er lles pawb sy’n defnyddio
ac yn mwynhau ein harfordir.
‘Rydym yn cydweithio’n agos gyda’r Bad Achub a Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau, ac yn ystod un o’n
sesiynau hyfforddi cafodd grwp o wirfoddolwyr daith o amgylch y Bad Achub a’r orsaf. Yn ystod y gaeaf bydd ein gwirfoddolwyr yn ymweld
â Phencadlys Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi i gyfarfod â’r Swyddogion y byddent yn cydweithio â hwy ac i ymgyfarwyddo â’r offer
a’r gweithdrefnau.
‘Rydym, ar hyn o bryd, yn recriwtio gwirfoddolwyr ar Porthdinllaen, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â David Littlemore ar 01766 512166, neu drwy e-bost.